Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
15 Ionawr 2018
SL(5)162 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Yn unol ag adran 43(4B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988, mae’r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar gyfer Cymru (“y cynllun”).
Mae’r Gorchymyn yn darparu y bydd hereditamentau sy’n bodloni’r amodau a nodir yn erthyglau 7 (amodau gwerth ardrethol); 8 (amodau gofal plant) neu 9 (amodau swyddfa bost) yn cael rhyddhad o dan y cynllun.
Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988
Fe’u gwnaed ar: 6 Rhagfyr 2017
Fe’u gosodwyd ar: 13 Rhagfyr 2017
Yn dod i rym ar: 8 Ionawr 2018